Math | adwaith cemegol, proses ffisegol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn adwaith cadwyn caiff atomau megis wraniwm eu hollti gan broses sy'n allyru niwtronau (neu "newtronau") ac mae'r rhain yn taro niwclews wraniwm arall gan achosi iddo yntau hollti ac allyru niwtronau. Fel y gwelir, mae yna broses yma sy'n gyrru ei hun gan achosi i'r adwaith gynyddu'n sydyn. Mewn adweithydd niwclear atomfa (sy'n cynhyrchu trydan) ceir adwaith wedi'i reoli gan rodenni - a rheiny'n cyflymu neu arafu'r adwaith niwclear. Ond mewn bom atomig ceir adwaith cadwyn afreolus.